Skip to main content

Rhowch eich barn i ni a helpwch ni i wella (agor mewn ffenestr newydd). Os oes arnoch angen help i ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein, gallwn ni gynnig help technegol. English

Pwysig: i’w ddarllen cyn i chi gychwyn

Os ydych yn gwneud cais am help gyda ffioedd llys a thribiwnlys ac rydych yn derbyn budd-daliadau cymhwysol ar hyn o bryd, rhaid i chi anfon tystiolaeth ochr yn ochr â’ch cais wedi’i lenwi. Mae hyn oherwydd problem dechnegol dros dro yr ydym yn ei phrofi.

Dylech ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein hwn pan fyddwch yn barod i wneud eich cais i lys neu dribiwnlys.

Fe gewch gyfeirnod Help i Dalu Ffioedd ar ddiwedd y broses a dylech anfon hwn i’r llys neu’r tribiwnlys gyda’ch hawliad o fewn 28 diwrnod. Os bydd yn cyrraedd ar ôl hynny, efallai y bydd yn cael ei wrthod a bydd rhaid ichi wneud cais am Help i Dalu Ffioedd newydd. Rhaid ichi ddarparu tystiolaeth o unrhyw fudd-daliadau cymhwysol, gwnewch yn siŵr bod hwn gennych yn barod cyn ymgeisio.

Rhaid cyflwyno ceisiadau am ad-daliad o fewn 3 mis ichi dalu’r ffi wreiddiol. Os gwrthodir eich cais gan bod y cyfeirnod Help i Dalu Ffioedd wedi’i ddarparu mwy na 28 diwrnod yn ôl, gallai hyn effeithio ar faint o amser sydd gennych yn weddill i fod yn gymwys i gael ad-daliad.

Os ydych yn gwneud sawl hawliad neu sawl cais, bydd rhaid i’r holl geiswyr wneud cais ar wahân am Help i Dalu Ffioedd a chyflwyno’r cyfeirnodau ar-lein i’r llys.

Bydd y staff yn prosesu’r cais am Help i Dalu Ffioedd a’r cais i’r llys neu’r tribiwnlys gyda’i gilydd ac fe’ch hysbysir os bydd angen i chi dalu rhywfaint o’r ffi neu os yw’r llys angen rhagor o wybodaeth gennych.

Gall cynrychiolydd cyfreithiol neu gyfaill cyfreitha wneud cais ar eich rhan. Mae’n rhaid iddynt roi’ch manylion chi yn y cais.

Cyn i chi barhau, gwnewch yn siŵr fod gennych:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol (NI) neu
  • eich gyfeirnod y Swyddfa Gartref - efallai bydd gennych gyfeirnod y Swyddfa Gartref os ydych chi’n destun rheolaethau mewnfudo
  • rhif y ffurflen llys neu dribiwnlys
  • rhif eich achos, rhif yr hawliad neu’r rhybudd talu - os oes gennych un
  • Os ydych yn ymgeisio am fudd-daliadau, byddwch angen darparu tystiolaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cadarnhau eich bod yn derbyn un o’r budd-daliadau cymhwysol. Gallwch ofyn am brawf o’ch budd-daliadau drwy’r DWP, a all gynnwys llythyr hawliad, llythyr prawf budd-dal neu ddogfennau swyddogol eraill. Mae hyn yn cynnwys llythyr dadansoddiad llawn gan yr Adran Waith a Phensiynau, ddylai fanylu dyddiad eich asesiad a chadarnhau’r budd-dal rydych yn ei dderbyn. Dylai unrhyw ddogfennau a gyflwynir eich adnabod chi a’ch partner (os yn berthnasol) yn glir, gyda thystiolaeth eich bod yn rhannu’r un cyfeiriad. Gallwch anfon y wybodaeth hon ynghyd â’ch cyfeirnod Cymorth gyda Ffioedd i’r llys neu swyddfa tribiwnlys drwy’r post neu e-bost, copïau wedi eu sganio neu sgrinlun ar ffôn symudol). Gallwch ofyn am brawf o’ch budd-daliadau drwy’r DWP, a all gynnwys llythyr hawliad, llythyr prawf budd-dal neu ddogfennau swyddogol eraill.

Hefyd bydd arnoch angen manylion eich:

  • incwm, yn cynnwys cyflog
  • cynilion a buddsoddiadau
  • manylion incwm, cynilion a buddsoddiadau eich partner - Os oes gennych bartner, byddwch angen eu rhif Yswiriant Gwladol, eu dyddiad geni a manylion eu hincwm, cynilion a buddsoddiadau

Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol chi a’ch partner (os oes gennych un) i gysylltu ag adrannau eraill y llywodraeth i ddilysu’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi. Bydd hyn yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd rhaid i chi ddarparu tystiolaeth bellach cyn y gellir gwneud penderfyniad.

Os nad ydych chi'n gwybod eich rhif Yswiriant Gwladol
Os nad ydych chi’n gwybod beth yw eich rhif Yswiriant Gwladol
  • Mae’ch cyfeirnod Swyddfa Gartref i’w weld ar unrhyw ohebiaeth a gawsoch gan y Swyddfa Gartref.

Os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol neu gyfeirnod Swyddfa Gartref, mae angen i chi ddefnyddio'r ffurflen bapur a gwneud cais i’r llys neu’r tribwnlys drwy’r post neu drwy e-bost.

Mae angen i’r wybodaeth a roddir gennych fod yn gywir gan y bydd yn gweithredu fel tystiolaeth ar gyfer eich cais a bydd yn ein galluogi i wirio’r wybodaeth gydag adrannau eraill y llywodraeth. Byddwn yn cysylltu â chi os byddwn angen gweld prawf o’r wybodaeth hon. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio yn y fideo canlynol HMCTS Help With Fees scheme.

Sut i wneud cais am help i dalu ffioedd

Parhau