Datganiad hygyrchedd ar gyfer y gwasanaeth cymorth gyda ffioedd
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r gwasanaeth Cymorth â Ffioedd.
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (GLlTEM). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r ffurflen ar-lein hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb golli'r testun oddi ar y sgrin
- mynd drwy'r ffurflen gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwrando ar y ffurflen gan ddefnyddio darllenydd sgrin
Sylwch mai cydnawsedd â VoiceOver yn unig a gynhwyswyd yn y profion hygyrchedd a gynhaliwyd hyd yma.
Rydym hefyd wedi gwneud y testun mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn y broses o drefnu archwiliad llawn fersiwn 2.1 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We (WCAG) o’r ffurflen ar-lein hon.
Byddwn yn diweddaru'r datganiad hwn ar ôl i ni dderbyn adroddiad archwilio 2.1 WCAG. Yn y cyfamser, rydym wedi gwneud rhai profion sylfaenol, ac wedi mynd i'r afael â'r materion a amlygwyd.
Defnyddiwyd cydrannau yn System Ddylunio GOV.UK. i lunio’r ffurflen hon. Mae canllaw hygyrchedd y System Ddylunio yn egluro cyflwr hygyrchedd cyfredol y cydrannau hyn.
Mae'r cydrannau a restrir yng nghanllaw hygyrchedd y System Ddylunio yn cydymffurfio'n llawn â safon AA WCAG 2.1.
Darperir y ffurflen adborth y gellir ei chael drwy’r ddolen ‘helpwch ni i wella’ gan Google Forms ac felly nid yw’n defnyddio cydrannau System Ddylunio GOV.UK.
Sylwadau a gwybodaeth am sut i gysylltu â ni
Os oes arnoch angen yr wybodaeth ar y ffurflen hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:
- cyflwynwch ffurflen i ofyn am gymorth technegol
- e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk
Os anfonwch e-bost atom, byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 10 diwrnod.
Os hoffech chi siarad â rhywun yn uniongyrchol ar y ffôn neu'n bersonol, gallwch:
- siarad ag aelod o staff llys neu dribiwnlys tra byddwch chi yn yr adeilad. Nhw sydd yn y lle gorau i'ch helpu chi
- cysylltu â’r llys neu’r tribiwnlys yn uniongyrchol trwy e-bost, ffôn neu lythyr
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y ffurflen ar-lein hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydyn ni'n cwrdd â gofynion y gofynion hygyrchedd, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk gan roi manylion y mater ac unrhyw dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.
Y drefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae HMCTS wedi ymrwymo i wneud ei ffurflenni a'i wasanaethau ar-lein yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We, oherwydd yr eithriadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Diffyg profion hygyrchedd llawn
Mae rhywfaint o brofion sylfaenol wedi'u cynnal ar y gwasanaeth Cymorth gyda Ffioedd. Yn benodol, sicrhawyd bod y gwasanaeth yn pasio profion safonol AA WCAG 2.1 a gynhaliwyd gydag offer profi hygyrchedd gwe HTML, Pa11y a WAVE. Profwyd y ffurflen hefyd o'r dechrau i'r diwedd gyda phrofion bysellfwrdd, chwyddo i mewn i 300% a VoiceOver.
Fodd bynnag, mae'r diffyg profion hygyrchedd llawn yn golygu nad yw'n bosibl datgan bod y gwasanaeth yn cydymffurfio'n llawn. Bydd archwiliad llawn WCAG 2.1 sydd i'w gynnal yn egluro hygyrchedd cyffredinol y gwasanaeth. Bydd hyn yn caniatáu inni sicrhau bod y gwasanaeth yn cydymffurfio'n llawn.
Beth rydym ni’n ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym wrthi'n trefnu archwiliad llawn WCAG 2.1 o'r ffurflen ar-lein hon. Yna byddwn yn diweddaru'r datganiad hwn.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 2 Hydref 2020. Fe'i diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Hydref 2020.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 2 Hydref 2020. Cynhaliwyd y profion gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (GLlTEM).